Symud at y prif gynnwys

Organoidau’r ymennydd iPSC imiwnogymwys: y ddeialog rhwng celloedd myeloid a lymffoid o fewn microamgylchedd glioblastoma

BTRI Logo

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Darganfod

Math o ganser

Yr Ymennydd

Glioblastoma (GBM) yw’r math mwyaf cyffredin a ffyrnig o diwmor malaen ar yr ymennydd mewn oedolion. Mae GBM yn tyfu’n gyflym ac yn gallu lledaenu’n eang i rannau eraill iach o’r ymennydd, sy’n golygu ei fod yn anodd iawn ei drin. Mae gan GBM brognosis gwael iawn, gyda chyfradd oroesi o oddeutu 15 mis ar ôl diagnosis. Mae’n gyffredin i diwmorau ailddigwydd a dim ond 5% o gleifion sy’n goroesi mwy na phum mlynedd, sy’n pwysleisio’r angen brys am well opsiynau triniaeth.

Mae microamgylchedd tiwmor (TME) yn cynnwys celloedd tiwmor a di-diwmor, gan gynnwys celloedd yr ymennydd a chelloedd imiwn. Mae’r rhyngweithio rhwng gwahanol gelloedd o fewn y TME yn allweddol wrth reoleiddio twf tiwmor, ymlediad ac ymwrthedd i driniaeth. Mae GBM yn adnabyddus am ei TME ataliol, sy’n arwain at ddiffyg llwyddiant imiwnotherapïau.

Mae ein labordy wedi bod yn gweithio ar ddatblygu model imiwnogymwys sy’n deillio o’r claf i ddeall y cyfathrebu rhwng celloedd sy’n cyfrannu at esblygiad tiwmor ac ymwrthedd i driniaeth.

Yn y prosiect hwn, byddwn yn datblygu’r model ymhellach, gan gynnwys astudio celloedd imiwn eraill (e.e. lymffocytau) sy’n allweddol wrth helpu i glirio tiwmorau, i ymchwilio sut gallwn drin y TME i gynyddu llwyddiant triniaethau.

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Catia Neto

Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Mark Gumbleton

Prifysgol Caerdydd