Astudiaeth ddichonoldeb o ddelweddu MRI uwch mewn tiwmorau ar yr ymennydd pediatrig

Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Math o ymchwil
Ymchwil Systemau Iechyd a Deilliannau Canser
Math o ganser
Yr Ymennydd
Bydd yr astudiaeth hon yn asesu diogelwch ac ymarferoldeb cynnal sganiau MRI uwch ar gyfer plant 8-16 oed sydd newydd gael diagnosis o fath o diwmor ar yr ymennydd a elwir yn glioma gradd isel (LGG), yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).
Nid ydym yn deall ar hyn o bryd pam mae rhai mathau o diwmorau ar yr ymennydd yn ymddwyn yn fwy ffyrnig er eu bod yn edrych yn debyg mewn profion presennol. Er enghraifft, fe allai dau glaf fod ag LGG sy’n edrych yr un peth o dan y microsgop ac yn rhannu’r un canlyniadau genetig, ond efallai na fydd un byth yn tyfu’n ôl ar ôl llawdriniaeth ond fe allai’r llall ailwaelu, gan achosi anabledd gydol oes a dallineb.
Yn y prosiect hwn, bydd yr MRI uwch yn edrych ar strwythur y tiwmor yn fanylach nag y gellir ei weld ar hyn o bryd ar sganiau safonol. Gobeithir y bydd y manylion ychwanegol hyn yn ein helpu i ddeall pam mae rhai tiwmorau’n ymddwyn yn fwy ffyrnig.
Os canfyddir bod yr astudiaeth hon yn realistig, yn ymarferol ac yn ddiogel, bydd astudiaeth fwy yn cael ei chynnal i asesu a allai MRI uwch, ynghyd â phrofion genetig ar y tiwmor ar ôl llawdriniaeth, ragfynegi tebygolrwydd ailwaelu. Gobeithir y byddai effaith y ddealltwriaeth hon yn paratoi’r ffordd ar gyfer triniaeth ddilynol fwy cywir a phersonol, gyda mwy o sganiau ar gyfer y rhai y mae arnynt eu hangen a llai o sganiau ar gyfer y rhai nad oes arnynt eu hangen.