Nodweddu ansefydlogrwydd genom a ysgogir gan delomerau mewn gliomas

Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Prifysgol Caerdydd
Math o ymchwil
Darganfod
Math o ganser
Yr Ymennydd
Glioblastoma (GBM) yw’r canser yr ymennydd mwyaf cyffredin ymhlith oedolion a’r cyfnod goroesi cyfartalog o ddiagnosis yw 15 mis yn unig. Mae angen i ni allu rhagfynegi goroesiad yn well ac amlygu therapïau newydd wedi’u targedu ar frys.
Mae telomerau yn gapiau ar ddiwedd cromosomau sy’n cludo deunydd genetig (DNA) yn ein celloedd. Gall telomerau gamweithio mewn celloedd canser, gan arwain at broblemau fel cromosomau sy’n cyfuno â’i gilydd. Mae hyn yn gam allweddol ar gyfer datblygiad llawer o ganserau ac rydym wedi dangos yn ddiweddar bod hyn yn wir o ran GBM.
Yn ddiddorol, rydym wedi canfod bod mesur hyd telomerau mewn tiwmorau GBM yn rhagfynegydd cryf o oroesiad claf. Yn ogystal, rydym wedi canfod ei bod yn gyffredin i gromosomau gyfuno mewn cleifion GBM, ac fe allai fod dulliau atgyweirio penodol ar gyfer y DNA sydd wedi’i niweidio a allai fod yn addas ar gyfer triniaethau wedi’u targedu.
Yn y prosiect hwn, gobeithiwn ddysgu:
- Sut mae hyd telomerau a ffactorau eraill yn cydweithio i effeithio ar oroesiad cleifion GBM?
- A ydym yn gweld canlyniadau tebyg mewn grwpiau mwy o gleifion (gan gynnwys cleifion o dreialon clinigol)?
- A yw’r math o atgyweirio niwed i DNA mewn cleifion sydd â GBM yn eu gwneud yn fwy tebygol o elwa o therapïau penodol wedi’u targedu?
Gallai deall mwy am delomerau cleifion GBM ein helpu i ragfynegi prognosis a mesur pwy fydd yn elwa o driniaethau wedi’u targedu.