Symud at y prif gynnwys

Amlygu antigenau newydd sy’n gysylltiedig â thiwmor mewn Glioblastoma i wella ymatebion T-gelloedd gwrthdiwmor

BTRI Logo

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Darganfod

Math o ganser

Yr Ymennydd

Mae glioblastoma (GBM) yn fath trychinebus o ganser na ellir ei wella. Mae opsiynau triniaeth yn cynnwys llawdriniaeth, cemotherapi a radiotherapi, ond mae tiwmorau’n dychwelyd yn aml ar ôl triniaeth felly mae angen therapïau newydd. Hyd yma, mae canlyniadau treialon imiwnotherapi wedi bod yn siomedig, o bosibl o ganlyniad i ddewis y therapi anghywir a/neu fethiant therapïau i groesi’r gwahanfur gwaed-ymennydd (sy’n amddiffyn yr ymennydd rhag pathogenau yn y gwaed).

Mae canlyniadau rhagarweiniol a data cyhoeddedig yn dangos bod camweithrediad celloedd gwaed gwyn sy’n lladd canser (a elwir yn T-gelloedd) yn nodwedd o GBM. Mae’r canser yn creu amgylchedd anghyfeillgar sy’n cyfyngu ar allu T-gelloedd i ladd celloedd canser, gan ganiatáu i’r tiwmor dyfu’n ddirwystr. Felly, mae gwella ymatebion T-gelloedd o fewn y tiwmor yn strategaeth imiwnotherapi bwysig.

Hyd yma, nid yw dulliau therapiwtig sy’n ceisio gwella ymatebion T-gelloedd wedi ysgogi ymateb gwrthganser cryf. Fe allai hyn fod oherwydd bod y targedau anghywir yn cael eu defnyddio i actifadu’r T-gelloedd.

Mae’r prosiect hwn yn ceisio:

1. Amlygu'r rhwystrau sy’n atal T-gelloedd rhag dileu’r canser.

2. Amlygu targedau T-gelloedd (antigenau) newydd y gellir eu defnyddio i hybu ymatebion T-gelloedd gwrthganser

Bydd y gwaith hwn yn diffinio targedau T-gelloedd newydd a all hybu a chyfoethogi T-gelloedd gwrthganser, gan wella imiwnotherapïau o bosibl a chynnig strategaethau newydd i wella goroesiad cleifion GBM.

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Mathew Clement

Prifysgol Caerdydd