Darganfyddwch ein pedwar conglfaen ymchwil gyda Dr Lee Campbell
Yn Ymchwil Canser Cymru, mae ymchwil yn ein DNA – rydym ni’n cefnogi’r ymchwil gorau yng Nghymru, i Gymru
Rydym ni’n ariannu ymchwil mewn pedwar prif faes - dyma ein ‘Pedwar conglfaen ymchwil’

Conglfaen 1: Ymchwil drosi a chanfod canser
I guro canser, yn gyntaf, mae’n rhaid i ni ddeall sut mae canser yn dechrau, yn datblygu, yn lledaenu ac yn gwrthsefyll triniaethau sydd ar gael ar hyn o bryd. Gwnaed yr holl welliannau blaenorol i ganlyniadau canser trwy ddefnyddio’r wybodaeth hon, a dyna fydd yn sail i’r holl welliannau i ddod, hefyd.
Er mwyn ein helpu i ddarganfod sut mae canserau’n dechrau ac yn datblygu, byddwn yn darparu lle wedi’i ddiogelu ar gyfer ariannu ymchwil o ansawdd uchel a fydd yn ehangu ein dealltwriaeth o’r sail enetig a moleciwlaidd i ddechreuad a datblygiad canser.
Bydd y mathau o ymchwil y ceisiwn eu cefnogi yn y maes hwn yn ystod y pum mlynedd nesaf yn cynnwys, ond ni fydd yn gyfyngedig i, astudiaethau sy’n archwilio:
- Y ffactorau a’r amrywiadau genetig sy’n achosi canserau.
- Ffactorau mewnol neu allanol sy’n achosi i ganserau ddechrau, datblygu a lledaenu (metastasis).
- Microamgylchedd y tiwmor a sut mae celloedd canser yn rhyngweithio â’u hamgylchoedd arferol yn y corff.
- Natur ac ymddygiad bôn-gelloedd canser.
- Imiwnoleg canser a sut mae newidiadau i’r system imiwnedd a’r ffordd y mae’n rhyngweithio â chelloedd canser yn dylanwadu ar dwf canser.
- Astudiaethau sy’n gwella effeithiolrwydd therapïau gwrthganser presennol neu newydd trwy ddealltwriaeth well o’r dulliau gweithredu ar lefel gellog.
- Ymagweddau biowybodeg gan gynnwys cyfrifiadura blaengar datblygedig a Deallusrwydd Artiffisial (AI) i gynorthwyo prognosis canser a rhagfynegi ymateb triniaeth.
Conglfaen 2: Sgrinio, atal a diagnosis cynnar
Credir bod diagnosis hwyr o ganser yn ffactor pwysig sy’n cyfrannu at y cyfraddau goroesi cymharol wael a welir yng Nghymru. O dan y gonglfaen hon, mae Ymchwil Canser Cymru wedi ymrwymo i ariannu ymchwil arbrofol o ansawdd uchel wedi’i seilio ar y boblogaeth a labordai a fydd yn gwella gwneud diagnosis cynnar o ganserau cychwynnol ac eilaidd.
Bydd y mathau o ymchwil y ceisiwn eu cefnogi yn y maes hwn yn ystod y pum mlynedd nesaf yn cynnwys, ond ni fydd yn gyfyngedig i, astudiaethau sy’n archwilio:
- Technolegau sy’n cyflwyno a gwerthuso biofarcwyr biolegol newydd ar gyfer canfod canser yn gynnar mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.
- Datblygu brechlynnau newydd i atal canser.
- Sut mae meddyginiaethau wedi’u haddasu at ddibenion gwahanol neu feddyginiaethau newydd, ymyriadau deietegol neu ymyriadau anfferyllol eraill yn atal canserau ar lefel foleciwlaidd.
- Astudiaethau ymddygiad y boblogaeth sy’n dylanwadu ar ddefnydd o raglenni sgrinio canser cenedlaethol a darparu profion canser sy’n fwy hygyrch ac yn haws eu defnyddio.
- Astudiaethau sy’n darparu tystiolaeth o faterion adnoddau a seilwaith fel y bônt yn berthnasol i atal canser a gwneud diagnosis cynnar ohono.
- Datblygu biopsïau hylif newydd ar gyfer canfod canserau cychwynnol ac eilaidd yn gynnar.
- Gwell delweddu meddygol ar gyfer canfod canserau cychwynnol ac eilaidd yn gynnar.
Conglfaen 3: Triniaethau gwell
O dan y gonglfaen hon, bydd ein hymchwil a ariennir yn canolbwyntio ar ddod o hyd i driniaethau gwell a mwy diogel ar gyfer pob math o ganser a, lle y bo’n bosibl, iacháu, ymestyn, a darparu gwell ansawdd bywyd i’r rhai sy’n byw gyda’r cyflwr.
Ar hyn o bryd, rydym yn gwybod nad yw pob claf yn ymateb yn yr un ffordd i’r gwahanol driniaethau sydd ar gael. Trwy ddefnyddio ymagwedd bersonol, byddwn hefyd yn canolbwyntio ar ymchwil sy’n darparu gwybodaeth sy’n cyfateb y driniaeth iawn i’r claf iawn ar yr adeg iawn.
I gyflawni hyn, byddwn yn defnyddio ymagwedd amlddisgyblaethol a fydd yn defnyddio genomeg, patholeg a delweddu meddygol, ochr yn ochr â threialon clinigol sy’n defnyddio triniaethau systemig a lleol.
Bydd hyn yn helpu Cymru i ddod yn gystadleuol ac yn sicrhau bod cleifion yng Nghymru ymhlith y cyntaf i elwa o driniaethau canser newydd yn ystod y pum mlynedd nesaf. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol, ond ni fydd yn gyfyngedig iddynt:
- Darganfod, datblygu, a gwerthuso cyfryngau gwrthganser newydd gan ddefnyddio technoleg dylunio cyffuriau â chymorth cyfrifiadur.
- Delweddu meddygol gwell, fel PET, CT ac MRI, i lywio a newid arferion triniaeth presennol.
- Cynllunio radiotherapi yn well i gynyddu’r ymateb triniaeth a rheoli clefyd, ar yr un pryd â lleihau sgil-effeithiau tymor byr a thymor hir.
- Cyfryngau wedi’u haddasu at ddibenion gwahanol, h.y. y rhai hynny a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer cyflyrau nad ydynt yn ganser fel triniaethau canser newydd.
- Ymchwil sy’n ceisio lleihau gwenwyndra cysylltiedig â thriniaeth.
- Cymorth gwell ar gyfer triniaeth cleifion trwy ddatblygu apiau a gwell profi ar y pwynt gofal.
- Imiwnotherapi canser i wella pŵer aruthrol ein systemau imiwnedd ein hunain i drin canser.
- Therapiwteg Canser Ddatblygedig sy’n defnyddio gwrthgyrff a nanofeddyginiaethau newydd, therapïau celloedd a genynnau datblygedig a moleciwlau synthetig â sail fiolegol i drin canser.
- Ymagweddau triniaeth sy’n cyfuno imiwnotherapi canser â thriniaethau radiotherapi neu gemotherapi presennol.
- Geneteg canser i lywio’r dewis personol, ac felly gorau, o driniaeth canser.
Conglfaen 4: Ymchwil systemau iechyd a chanlyniadau canser
Yn Ymchwil Canser Cymru, rydym yn deall bod achub bywydau’n ymwneud â mwy na chanfod triniaethau newydd yn unig – mae’n ymwneud â sicrhau bod llwybrau canser cadarn a chydnerth a seilwaith cenedlaethol ar waith, sy’n gallu ymdopi â’r galw a chynorthwyo pobl yn gyflymach.
Mae ymchwil systemau iechyd a chanlyniadau canser yn darparu tystiolaeth allweddol y gellir ei defnyddio i newid polisi ac ymarfer, gan wella gwasanaethau canser i bawb. O fewn y maes gwaith hwn, byddwn yn defnyddio data a gwybodaeth iechyd i ddarparu tystiolaeth ac ymyriadau sy’n gallu llywio a gwella llwybrau canser yn barhaus er budd cleifion sy’n defnyddio’r gwasanaethau hanfodol hyn a’r gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio ynddynt.
Bydd y mathau o ymchwil y ceisiwn eu cefnogi yn y maes hwn yn ystod y pum mlynedd nesaf yn cynnwys, ond ni fydd yn gyfyngedig i, astudiaethau sy’n archwilio:
- Modelu perfformiad y Llwybr Canser Sengl yng Nghymru i ragfynegi anghenion adnoddau yn y dyfodol.
- Dadansoddi perfformiad llwybrau diagnostig a thriniaeth ar gyfer gwahanol fathau o ganser.
- Achosion gwraidd oedi wrth wneud diagnosis o ganser a/neu is-fathau o ganser yng Nghymru a’u trin.
- Anghydraddoldebau canser fel y bônt yn berthnasol i ddaearyddiaeth, statws economaidd-gymdeithasol, rhywedd, ethnigrwydd, oedran a ffactorau eraill.
- Ymyriadau a phrosesau newydd i wella dulliau gweithio presennol mewn gofal sylfaenol ac eilaidd ar gyfer canser.
- Defnyddio gwybodeg a data iechyd i wella cofrestrau canser presennol er mwyn adrodd ar fynychder a marwolaethau canser mewn amser real gyda chydraniad uwch ar lefel y boblogaeth.