Rhedwch gyda realbuzz ar gyfer Ymchwil Canser Cymru

Math o ddigwyddiad
Marathon
Rydyn ni wedi ymuno â realbuzz i roi'r dewis i'n cefnogwyr gymryd rhan yn rhai o ddigwyddiadau enwocaf y byd. Ymhlith y rasys mae Rasys 10K, Hanner Marathonau a Marathonau Llawn; neu os ydych chi am redeg gyda thîm, beth am Ras Gyfnewid?
Os dewiswch chi Athen, Chicago, Dulyn neu Baris, neu un o'r llu o rai eraill, byddwch yn cefnogi ein gwaith fel elusen ymchwil canser yng Nghymru.
Sut mae’n gweithio:
- Dewiswch o'r rhestr ddigwyddiadau: Find A Charity Running Event | Global Marathons & Half Marathons
- Dewiswch yr opsiwn o redeg gyda realbuzz ar gyfer YMCHWIL CANSER CYMRU
- Talwch eich blaendal i gadw eich lle
- Byddwn ni’n talu’r ffi gofrestru unwaith y byddwch chi wedi codi canran benodol o arian yn ystod eich ymgyrch codi arian
- Byddwn yn eich cefnogi gyda'ch ymgyrch codi arian, ac yn ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyfforddi
- Unwaith y byddwch chi’n codi eich £50 cyntaf, byddwn yn anfon eich top rhedeg #TimYCC atoch
Yn fuan ar ôl cofrestru, cewch gyswllt pwrpasol yma yn Ymchwil Canser Cymru i’ch cefnogi bob cam o’r daith gyffrous hon.
Bydd mynediad i’r ras hefyd yn cynnwys:
- Pecyn codi arian pwrpasol
- Diweddariadau rheolaidd am y digwyddiad
- Cefnogaeth gan ein Grŵp Facebook, Clwb Rhedeg #TîmYCC
- Gwybodaeth am Ymchwil Canser Cymru a’n prosiectau ymchwil diweddaraf
- Crys T rhedeg Ymchwil Canser Cymru (pan fyddwch wedi cyrraedd £50 o’ch targed codi arian)